A A A

Tîm Gweithredol

Steve Jones, Prif Weithredwr

Bu Steve, a ymgymerodd â’i swydd ar 27ain o Ebrill 2009, gynt yn Gyfarwyddwr Grŵp Gwasanaethau Cymunedol yng Ngrŵp Tai Pennaf yng Ngogledd Cymru.


Steve Jones

Mae Steve wedi bod yn gweithio ym maes tai am dros 25 mlynedd mewn nifer o swyddogaethau ar draws y wlad gan gynnwys Ynys Môn, Cyngor Dinas Sheffield a’r Alban, ar ôl iddo ennill gradd mewn Tai ym Mhrifysgol Hallam Sheffield. Y mae’n medru Cymraeg yn rhugl ac y mae wedi gwasanaethu ar nifer o gyrff tai cenedlaethol gan gynnwys Cyngor Cenedlaethol Cartrefi Cymunedol Cymru. Bu Steve yn Gadeirydd Annibynnol ar bartneriaeth adfywio Caergybi Ymlaen rhwng 2005 a 2009, ac y mae ar hyn o bryd yn Gadeirydd ar Fforwm Tai Gwledig Cymru Gyfan.

"Rwyf wrth fy modd o fod wedi cael fy mhenodi’n Brif Weithredwr i’r Gymdeithas Tai newydd hon, ac rwyf yn edrych ymlaen at gwrdd â chymaint ag sy’n bosib o denantiaid a lesddeiliaid yn ystod yr wythnosau a’r misoedd i ddod mewn cyfarfodydd ymgynghori ac wrth inni fynd am dro o gwmpas ystadau fel yr ydym yn cynllunio ei wneud."

"Er ein bod ni i gyd wedi bod yn gweithio’n galed ar y paratoadau i greu Tai Ceredigion yn gwmni di-elw newydd, nawr, yn syth ar ôl i’r trosglwyddiad ddigwydd, ac wrth i Dai Ceredigion ddechrau darparu gwasanaethau a gwella cartrefi, y mae’r gwaith go iawn yn dechrau."

 

Katrina Michael, Dirprwy Brif Weithredwr

Mae Katrina yn ymuno â Thai Ceredigion o Dai Canolbarth Cymru lle roedd yn Ddirprwy Brif Weithredwr.


Katrina Michael

Mae Katrina yn gweithio ym maes tai ers dros 15 mlynedd a’i phrif swyddogaeth gyda Thai Ceredigion fydd gweithio gyda’r Prif Weithredwr i sefydlu’r gymdeithas, a hithau’n canolbwyntio ar Gyllid, TG, Rheoli Perfformiad ac Adnoddau Dynol.

Mae Katrina, sy’n dysgu’r Gymraeg, yn frwd ynghylch hunangynhaliaeth ac mae’n byw ar dyddyn ger Machynlleth. Meddai hi:  “Rwyf yn teimlo’n gyffrous iawn am y dechreuad newydd hwn. Mae’r addewidion a wnaed i denantiaid am safon cartrefi a gwasanaethau gyda Thai Ceredigion yn rhagorol ac yn ystod y blynyddoedd nesaf byddwn yn gweddnewid cartrefi.”

 

Eleri Jenkins, Cyfarwyddwr Tai a Chefnogaeth

Mae Eleri yn gyfrifol am wasanaethau rheoli tai, gan gynnwys cefnogaeth i drigolion hŷn a thrigolion ddiamddifyn.


Eleri Jenkins

Mae gan Eleri dros 27 mlynedd o brofiad ym mhob agwedd ar reoli tai. Mae hi wedi gweithio o’r blaen i awdurdod lleol a chymdeithas tai.

“Fy mhrif orchwyl i yn ystod y misoedd nesaf fydd sicrhau trosglwyddiad rhwydd o’r Cyngor i Dai Ceredigion, gan wneud yn siŵr y gall pobl ar y diwrnod cyntaf dalu eu rhent a rhoi gwybod am atgyweiriadau. Rydym hefyd yn gweithio ar lawlyfr newydd y tenantiaid, ehangu ar y wefan hon, ac ar sut y gallwn wella gwasanaethau. Rwyf am weld tenantiaid a lesddeiliaid yn chwarae rhan wirioneddol yn y dyfodol i helpu i siapio’r ffordd y byddwn yn darparu ac yn gwella gwasanaethau tai.”

 

Llyr Edwards, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Eiddo

Llyr Edwards yw’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Eiddo, gyda’r cyfrifoldeb am gynnal a chadw a gwelliannau gan gynnwys atgyweiriadau o ddydd i ddydd a’r rhaglen welliannau £40m i sicrhau bod cartrefi’n cwrdd â Safon Ansawdd Tai Cymru.


Llyr Edwards

Bu Llyr yn gweithio o’r blaen i Gymdeithas Tai Eryri lle yr oedd, fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Eiddo, yn rheoli cyllidebau o filiynau o bunnoedd ar gyfer cynnal a chadw’r cartrefi a oedd eisoes yn bodoli yn ogystal ag adeiladu rhai newydd. Mae ganddo dros 14 blynedd o brofiad yn y diwydiant adeiladu a chynnal a chadw ac mewn swyddogaethau blaenorol y mae wedi gweithio ar brosiectau ledled y Deyrnas Unedig i adeiladu llety i fyfyrwyr. Mae gan Llyr radd mewn Technoleg a Rheolaeth Adeiladu, y mae’n medru’r Gymraeg yn rhugl ac yn mwynhau cerdded yn ei amser hamdden.

Meddai Llyr; “Rwyf yn edrych ymlaen at yr heriadau sy’n wynebu Tai Ceredigion a’r cyfleoedd sy’n dod o fod yn rhan o dîm newydd sbon gyda sefydliad newydd sbon. Yn ystod y blynyddoedd nesaf mi wnawn wahaniaeth go iawn i fywydau pobl a bydd yn hyfryd cael gweithio mewn rhan mor brydferth o’r wlad.”

Tai Ceredigion Cyf, Uned 4, Parc Busnes Pont Steffan, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion. SA48 7HH
Rhif cofrestru cwmni: IP030701
Email post@taiceredigion.org.uk
General enquiries Ymholiadau cyffredinol: 0345 606 7654
Atgyweirio: 0300 123 3300   Rhad ac am ddim: 0800 111 4228
Tai Ceredigion © 2013
Tai Ceredigion