Syt i Ymgeisio
Rydym yn ymroddedig i bolisi o degwch a chydraddoldeb cyfle yn Tai Ceredigion a dyna pam bod gennym broses recriwtio wedi ei strwythuro. Os hoffech ymgeisio am unrhyw un o’n swyddi, llwythwch y ffurflen gais a ffurflen monitro cyfle cyfartal.
Ffurflen Gais
Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal
Ffurflen Datgan Budd
Llenwch y ffurflen gais a ffurflen monitro cyfle cyfartal ac dychwelyd naill ai at:
recruitment@taiceredigion.org.uk
Neu
Adnoddau Dynol
Tai Ceredigion Cyf
Uned 4
Parc Busnes Pont Steffan
Llanbedr Pont Steffan
Ceredigion
SA48 7HH
Ar ôl y dyddiad cau, mae pob cais yn cael ei wneud yn anhysbys a’i anfon at reolwr wedi ei hyfforddi’n llawn i’w asesu. Bydd y rheolwr yn darllen trwy’r ffurflenni’n drylwyr ac yn cymharu’r hyn a ysgrifennwyd â’r gofynion yn y fanyleb person. Bydd yr holl ymgeiswyr sy’n dangos eu bod yn bodloni’r meini prawf hanfodol yn cael eu gwahodd i gyfweliad.
Yn y cyfweliad byddwch yn cael rhagor o wybodaeth am y swydd yr ydych yn ymgeisio amdani. Fydd cwestiynau yn y cyfweliad wedi eu strwythuro i chi ar sail cynnwys y Disgrifiad Swydd yn y Manyleb Person.