Nodau ac Amcanion
Mae Tai Ceredigion wedi cael ei sefydlu gyda’r weledigaeth o fod “yn landlord ac yn gyflogwr dwyieithog o’r math gorau un sy’n rhoi tenantiaid yn gyntaf, yn darparu cartrefi o safon ac sydd o fudd i gymunedau a’r economi leol”.
Bydd Tai Ceredigion yn gallu buddsoddi yng nghartrefi tenantiaid a gall, yn hyderus, ddod â chartrefi i fyny at Safon Ansawdd Tai Cymru a sicrhau y caiff tenantiaid wasanaethau o ansawdd uchel.
Gwnaiff Tai Ceredigion ymgynghori â’n tenantiaid ynghylch cyflwyno gwelliannau megis gwasanaeth apwyntiadau ar gyfer atgyweiriadau.
Mae Tai Ceredigion hefyd yn awyddus i sicrhau bod manteision economaidd ehangach i’r economi leol o ran creu cyfleoedd am swyddi drwy gynlluniau hyfforddiant a phrentisiaeth. Golygai hyn y byddai’r £40 miliwn o fuddsoddiad a gynllunnir yn dod â gwelliannau y mae mawr angen amdanynt i gartrefi tenantiaid a hefyd yn rhoi hwb i ddyfodol economaidd cymunedau yng Ngheredigion.