Gweinidog yn canmol Cymdeithas Dai am greu swyddi newydd i bobl leol

Fis diwethaf cafodd Tai Ceredigion ei ganmol gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis, yn dilyn lansio adroddiad diweddaraf i2i yng nghynhadledd flynyddol Sefydliad Tai Siartredig Cymru yng Nghaerdydd. Mae’r gymdeithas dai wedi bod yn treialu pecyn cymorth i2i Llywodraeth Cymru yn llwyddiannus. Mae’r pecyn yn hyrwyddo trefniadau caffael sy’n hwylus i fusnesau bach a chanolig, ac fe’i defnyddiwyd gan y gymdeithas i ddod o hyd i gontractwyr lleol a busnesau bach i ymgymryd â gwaith cynnal a chadw a gwella ar gartrefi ei thenantiaid.
Mae’r adroddiad yn edrych ar y tair blynedd diwethaf ac yn dangos bod 2,581 o swyddi a chyfleoedd hyfforddi wedi’u creu gan y 26 sefydliad sydd wedi mabwysiadu’r model, a bod bron i 1,400 o’r rheini wedi’u creu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf
. Mae’r ffigur yn cyfateb i 15 o gyfleoedd yr wythnos, ac mae llawer ohonynt wedi’u creu yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.
Wrth siarad yn y gynhadledd, meddai’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis, “Rwyf yn falch iawn o’r hyn yr ydym ni a’n partneriaid wedi’i gyflawni yn y sector tai, diolch i’r Pecyn Cymorth. Mae’n enghraifft wych o’r hyn y gellir ei wneud i fachu ar fanteision ehangach contractau, gan greu cyfleoedd i oedolion a phobl ifanc leol sy’n ddi-waith gael hyfforddiant a phrofiad gwaith, sy’n hanfodol er mwyn gallu cystadlu yn y farchnad swyddi sydd ohoni.”
Meddai Llyr Edwards, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Eiddo Tai Ceredigion, “Mae’r pecyn cymorth wedi darparu arweiniad amhrisiadwy ar gynnwys hyfforddiant a gwaith recriwtio wedi’u targedu fel amod yn y contractau. Ein hamcan clir oedd datblygu’r bunt leol a gwneud y mwyaf o’r arian yr ydym yn ei wario wrth fuddsoddi mewn tai. Felly, penderfynwyd caffael contractwyr ar gyfer y gwaith gwella sy’n ymwneud â Safon Ansawdd Tai Cymru trwy ddefnyddio fframwaith yn hytrach na’r model prif gontractwr. Bu modd i ni rannu’r gwaith ar gyfer Safon Ansawdd Tai Cymru yn dair lot benodol o ran gwerth, a oedd yn golygu bod ymgeiswyr â gwahanol lefelau trosiant yn gallu gwneud cais am y lot briodol. Cynhaliwyd dau ddiwrnod ‘Cwrdd â’r Prynwyr’ er mwyn i gontractwyr gael mwy o wybodaeth am y broses a chael gwybod beth oedd yn ddisgwyliedig ganddynt yn eu ceisiadau.
Bu staff, tenantiaid ac aelodau’r Bwrdd i gyd yn rhan o’r broses o sgorio dogfennau tendro a chyfweld contractwyr wrth ddyfarnu’r contractau. Llwyddon ni i benodi 20 o gontractwyr a oedd yn cynnwys 15 o fusnesau bach a chanolig, ac mae gennym 8 o brentisiaid sy’n cael eu cyflogi gan Tai Ceredigion dan gynllun rhannu prentisiaethau gyda’r contractwyr sy’n rhan o’r fframwaith. Mae staff eraill wedi’u recriwtio i oruchwylio’r rhaglen welliannau - mae 6 o Ymgynghorwyr Cyswllt â Phreswylwyr yn gofalu am fodlonrwydd tenantiaid ac mae 2 Reolwr Prosiect ynghyd â 6 o Syrfewyr Cynnal a Chadw yn rheoli’r rhaglen waith yn uniongyrchol. Yma, yn Tai Ceredigion, rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn defnyddio crefftwyr a chontractwyr lleol lle bo hynny’n bosibl, a chredwn fod hynny’n hollbwysig i’r economi leol.”