A A A
Header graphic

Gweinidog yn canmol Cymdeithas Dai am greu swyddi newydd i bobl leol

Fis diwethaf cafodd Tai Ceredigion ei ganmol gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis, yn dilyn lansio adroddiad diweddaraf i2i yng nghynhadledd flynyddol Sefydliad Tai Siartredig Cymru yng Nghaerdydd. Mae’r gymdeithas dai wedi bod yn treialu pecyn cymorth i2i Llywodraeth Cymru yn llwyddiannus. Mae’r pecyn yn hyrwyddo trefniadau caffael sy’n hwylus i fusnesau bach a chanolig, ac fe’i defnyddiwyd gan y gymdeithas i ddod o hyd i gontractwyr lleol a busnesau bach i ymgymryd â gwaith cynnal a chadw a gwella ar gartrefi ei thenantiaid.

Mae’r adroddiad yn edrych ar y tair blynedd diwethaf ac yn dangos bod 2,581 o swyddi a chyfleoedd hyfforddi wedi’u creu gan y 26 sefydliad sydd wedi mabwysiadu’r model, a bod bron i 1,400 o’r rheini wedi’u creu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf

. Mae’r ffigur yn cyfateb i 15 o gyfleoedd yr wythnos, ac mae llawer ohonynt wedi’u creu yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.

Wrth siarad yn y gynhadledd, meddai’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis, “Rwyf yn falch iawn o’r hyn yr ydym ni a’n partneriaid wedi’i gyflawni yn y sector tai, diolch i’r Pecyn Cymorth. Mae’n enghraifft wych o’r hyn y gellir ei wneud i fachu ar fanteision ehangach contractau, gan greu cyfleoedd i oedolion a phobl ifanc leol sy’n ddi-waith gael hyfforddiant a phrofiad gwaith, sy’n hanfodol er mwyn gallu cystadlu yn y farchnad swyddi sydd ohoni.”

Meddai Llyr Edwards, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Eiddo Tai Ceredigion, “Mae’r pecyn cymorth wedi darparu arweiniad amhrisiadwy ar gynnwys hyfforddiant a gwaith recriwtio wedi’u targedu fel amod yn y contractau. Ein hamcan clir oedd datblygu’r bunt leol a gwneud y mwyaf o’r arian yr ydym yn ei wario wrth fuddsoddi mewn tai. Felly, penderfynwyd caffael contractwyr ar gyfer y gwaith gwella sy’n ymwneud â Safon Ansawdd Tai Cymru trwy ddefnyddio fframwaith yn hytrach na’r model prif gontractwr. Bu modd i ni rannu’r gwaith ar gyfer Safon Ansawdd Tai Cymru yn dair lot benodol o ran gwerth, a oedd yn golygu bod ymgeiswyr â gwahanol lefelau trosiant yn gallu gwneud cais am y lot briodol. Cynhaliwyd dau ddiwrnod ‘Cwrdd â’r Prynwyr’ er mwyn i gontractwyr gael mwy o wybodaeth am y broses a chael gwybod beth oedd yn ddisgwyliedig ganddynt yn eu ceisiadau.

Bu staff, tenantiaid ac aelodau’r Bwrdd i gyd yn rhan o’r broses o sgorio dogfennau tendro a chyfweld contractwyr wrth ddyfarnu’r contractau. Llwyddon ni i benodi 20 o gontractwyr a oedd yn cynnwys 15 o fusnesau bach a chanolig, ac mae gennym 8 o brentisiaid sy’n cael eu cyflogi gan Tai Ceredigion dan gynllun rhannu prentisiaethau gyda’r contractwyr sy’n rhan o’r fframwaith. Mae staff eraill wedi’u recriwtio i oruchwylio’r rhaglen welliannau - mae 6 o Ymgynghorwyr Cyswllt â Phreswylwyr yn gofalu am fodlonrwydd tenantiaid ac mae 2 Reolwr Prosiect ynghyd â 6 o Syrfewyr Cynnal a Chadw yn rheoli’r rhaglen waith yn uniongyrchol. Yma, yn Tai Ceredigion, rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn defnyddio crefftwyr a chontractwyr lleol lle bo hynny’n bosibl, a chredwn fod hynny’n hollbwysig i’r economi leol.”

 

Plant ysgol Llanafan yn plannu coed ar gyfer y dyfodol

Yr wythnos diwethaf, bu plant ysgol lleol yn gweithio’n galed i blannu perllan o goed ffrwythau traddodiadol yng ngwarchodfa natur newydd y gymuned yn Llanafan. Enw’r prosiect yw Plannu Llanafan, a chaiff ei ariannu gan y fenter Trefi Taclus a’i gefnogi gan gymdeithas dai Tai Ceredigion. Ei fwriad yw creu hafan i fywyd gwyllt y gall pawb ei mwynhau.

Cafwyd y cyllid gan y fenter Trefi Taclus y llynedd wedi i drigolion ar ystâd Maes y Felin gerllaw sôn am broblemau â chwyn, sbwriel ac achosion o dipio anghyfreithlon ar y safle sydd rhwng y tai a Nant Pant yr Haidd. Dangosodd arolwg a gynhaliwyd fod cefnogaeth gref yn y gymuned i gynllun a fyddai’n helpu pobl leol i ofalu am fywyd gwyllt a thyfu eu bwyd eu hunain ar yr un pryd.

Meddai Abigail Williams, sy’n fam i ddau o blant ac yn un o denantiaid Tai Ceredigion, “Rydym yn falch iawn bod rhywbeth yn cael ei wneud â darn o dir a oedd yn ddiffaith. Mae’r gymuned gyfan wedi helpu o’r dechrau trwy feddwl am syniadau a bwrw ati i wneud y gwaith.”

Meddai Mrs Sue Williams, un arall o denantiaid Tai Ceredigion, “Mae’r trigolion hŷn yn edrych ymlaen yn fawr at gael rhywle tawel a dymunol i eistedd. Mae fy nheulu i gyd yn byw yma, fy merch a’m hwyrion, felly byddem yn hoffi defnyddio’r gwelyau uchel i dyfu perlysiau a llysiau.”

Meddai Mr Mark Ansell, Pennaeth Ysgol Gynradd Llanafan, “Mae’r plant wrth eu bodd o gael bod yn rhan o’r prosiect a chael torchi eu llewys. Maent wedi mwynhau plannu’r berllan, ac maent yn edrych ymlaen at gynaeafu’r ffrwythau yn yr hydref. Mae’n ardal newydd wych i’r ysgol gan ei bod ar garreg y drws. Bydd yn helpu i ddatblygu’r ardal a chynnal y safle.”

Meddai Catrin Owen, Rheolwr Mentrau Newydd a Gwella Parhaus Tai Ceredigion, “Caiff y warchodfa natur newydd ei hagor yn swyddogol ym mis Mai pan fydd y gwaith i gyd wedi’i gwblhau. Bydd pawb yn cael eu gwahodd i ymuno yn y dathlu, a bydd yn ddiwrnod gwych. Hoffem ddiolch i’r pentrefwyr i gyd am gymryd diddordeb yn y prosiect a helpu i wneud gwell defnydd o’r prysgdir. Rhaid cofio hefyd am yr holl waith caled a wnaed gan Fferm Denmark a The Otter Consultancy. Hebddynt hwy, ni fyddai’r warchodfa natur wedi datblygu’n brosiect mor ardderchog.”

Archif Datganiadau i'r Wasg

Bro teifi yn ffarwelio a Chydlynydd Wrth Gefn  Mai 2012
Datganiad ir wasg i2i Ebrill 2012
Plannu Llanafan Plant yn plannu coed Mawrth 2012
Dyfarniad ynghylch Hyfywedd Ariannol Mawrth 2012  Mawrth 2012
Cyllid Arbed Mawrth 2012 Mawrth 2012
Aelodau Annibynnol Newydd Mawrth 2012 Mawrth 2012
Ymgynghorwyr Cyswllt a Phreswylwyr  Chwefror 2012 
Tai Ceredigion yn chwilio am aeoldau newydd i'r Bwrdd Chwefror 2012
Cynllun Tai Gwarchod Bro Teifi yn dathlu cael cyllid gan y loteri  Ionawr 2012
Cadeirydd newydd Grŵp Monitro Tenantiaid Tai Ceredigion fydd yn lleisio barn y tenantiaid  Ionawr 2012
Ailgylchu coed Nadolig ei thenantiaid drwy eu malu  Rhagfyr 2011
Canolfan deulu  Rhagfyr 2011 
Rheolwr Tim Cynnal a chadw Rhagfyr 2011 
Prentis newydd Tai Ceredigion Rhagfyr 2011
Cymdeithas dai yn lansio gwefan ddigidol Chwilion Lleol Tachwedd 2011 
Cyn gadeirydd Cyngor Sir Ceredigion yn ymuno a Bwrdd cymdeithas dai leol Tachwedd 2011
Cynllun Tai Gwarchod Bro Teifi yn cael gardd newydd Tachwedd 2011 
Bwrdd Tai Ceredigion a chynrychiolwyr y tenantiaid yn adolygu cynnydd o safbwynt gwella cartrefi Hydref 2011
Y Gynhadledd i Denantiaid yn ateb eu holl gwestiynau Hydref 2011
Cymdeithas dai yn penodi contractwyr lleol i wneud gwelliannau sylweddol i gartrefi Hydref 2011
Diwrnod skipiau  Hydref 2011
Cynhadledd i denantiaid ynghylch gwelliannau sylweddol i gartrefi Medi 2011 
Cymdeithas dai yn cael staff newydd a fydd yn goruchwylio’r rhaglen welliannau enfawr ledled y sir  Awst 2011 
Tai Ceredigion yn lansio llawlyfr Tenantiaid Newydd  Awst 2011 
Tai Ceredigion yn bwrw ati Gorffennaf 2011
Tim Medra yn bwrw ati i lanhau ein sir Gorffennaf 2011
Pontior cenedlaethau Gorffennaf 2011
Gweinidog yn ymweld a fflatiau gwyrdd Aberystwyth Mehefin 2011
Grwp Tenantiaid Maes Gogerddan yn cael technoleg fodern ar gyfer preswylwyr y cynllun Mehefin 2011
Mae Tai Ceredigion yn edrych or newydd ar ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein sir Mehefin 2011 
Diwrnod i’r brenin yn Rheidol Place Mai 2011
Tai Ceredigion yn llwyddo mewn asesiad blynyddol o hyfywedd ariannol Ebrill 2011
Tai Ceredigion yn cael cyllid gan yr Undeb Ewropeaidd Ebrill 2011
Gweinidog Mawrth 2011 Mawrth 2011
TC yn ymweld ag ysgol leol i roi cyngor ynghylch iechyd a diogelwch a chynghorion ynghylch arbed ynni Mawrth 2011
Ydych chi gydi ni Mawrth 2011
Tai Ceredigion yn dechrau ar waith ailwampio mawr ym Mhenparcau Chwefror 2011
Staff cynnal a chadw Tai Ceredigion yn gweithio’n galed dros gyfnod y Nadolig   Ionawr 2011
Gynhadledd gyntaf erioed i denentiaid Rhagfyr 2010
Helpu tenantiaid i beidio â mynd i ddyled dros y Nadolig Rhagfyr 2010
Tai Ceredigion yn galw ar gontractwyr lleol i gysylltu Tachwedd 2010
Tai Ceredigion yn dathlu ei ben-blwydd cyntaf Hydref 2010
Fflatiau Penybont Medi 2010
Tai Ceredigion AGM Cym Gorfennaf 2010
Lansio masgot Tai Ceredigion Mehefin 2010
Tai Ceredigion yn cael cefnogaeth gweinidog Ebrill 2010
Buddsoddi mewn gwell garejis Ebrill 2010
Toeon newydd a chartrefi cynhesach Mawrth 2010
Digwyddiad i gyflenwyr Chwefror 2010
Cadw cyrchu’n lleol Ionawr 2010
Ariannu Barclays Ionawr 2010
Tai Ceredigion yn mynd yn fyw Rhagfyr 2009
Tai Ceredigion Cyf, Uned 4, Parc Busnes Pont Steffan, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion. SA48 7HH
Rhif cofrestru cwmni: IP030701
Email post@taiceredigion.org.uk
General enquiries Ymholiadau cyffredinol: 0345 606 7654
Atgyweirio: 0300 123 3300   Rhad ac am ddim: 0800 111 4228
Tai Ceredigion © 2012
Tai Ceredigion