Mae Tai Ceredigion yn chwilio am denantiaid awyddus a brwdfrydig i ymuno â’r Bwrdd a dweud eu dweud

Eleni, bydd cyfle i denant gael ei ethol i Fwrdd Tai Ceredigion a mynegi barn am benderfyniadau a chynlluniau’r gymdeithas dai ar gyfer y dyfodol. Gall unrhyw un o denantiaid Tai Ceredigion gynnig am y swydd. Mae’n swydd wirfoddol, a chaiff costau yr eir iddynt eu had-dalu. Bydd y tenantiaid yn ethol un o’u plith yn y gwanwyn, a bydd y sawl a gaiff ei ethol yn ymuno â’r Bwrdd yn yr haf.
Mae Bwrdd Tai Ceredigion yn cynnwys 15 o wirfoddolwyr di-dâl sy’n cynnwys 5 tenant, 5 aelod a enwebir gan y Cyngor a 5 aelod annibynnol y mae pob un ohonynt yn cynnig gwahanol arbenigedd a phrofiad i’r gymdeithas. Mae rhywfaint o gyfrifoldeb yn perthyn i’r swydd, ac felly byddai’n ddoeth i ymgeiswyr gael ychydig o hyfforddiant a fydd yn cael ei ddarparu cyn yr etholiad.
Meddai Jim Scanlan, Cadeirydd y Grŵp Monitro Tenantiaid, “Mae’n allweddol bod tenantiaid Tai Ceredigion yn cael mynegi eu barn am yr hyn y mae’r gymdeithas dai yn ei wneud o ddydd i ddydd a’r hyn y mae’n ei gynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae’n hollbwysig, felly, bod tenantiaid yn ymgeisio am y swydd hon. Byddwn ni, y Grŵp Monitro Tenantiaid, yn darparu unrhyw hyfforddiant y gallai fod ei angen ar ymgeisydd, felly peidiwch â bod ofn ymgeisio. Cofiwch, mae eich adborth a’ch cyfranogiad yn hollbwysig i helpu i sicrhau bod Tai Ceredigion yn darparu’r gwasanaeth gorau posibl! Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch nawr â Sue Thomas, eich Ymgynghorydd Cyfranogiad Tenantiaid.”
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Dydd Gwener 30 Mawrth 2012.