Y diwygiadau lles newydd yn effeithio ar filoedd o bobl

Mae un o’r diwygiadau lles newydd yn effeithio ar nifer sylweddol o’r 75,000 o bobl sy’n byw yng Ngheredigion. Mae’r dreth ar ystafelloedd gwely, a ddaeth i rym ddechrau mis diwethaf, yn effeithio ar y sawl sy’n cael budd-dal tai yr ystyrir eu bod yn byw mewn eiddo sy’n rhy fawr ar eu cyfer. Mae tenantiaid yn colli rhwng £11 a £24 yr wythnos.
Aethom i gyfarfod â Mr Tony Hawkins, sylfaenydd Grŵp Gweithredu ar Anabledd Cymru, sy’n denant anabl sy’n ddibynnol ar ei gadair olwyn ac sy’n byw gyda’i bartner yn Llandysul. Ers dwy flynedd mae wedi bod yn denant i Tai Ceredigion ac yn byw yn ei gartref sydd â dwy ystafell wely. Meddai Mr Hawkins, “Rwy’n bryderus iawn am y newidiadau hyn gan fy mod o’r farn eu bod wedi’u bwriadu i chwalu’r system fudd-daliadau’n llwyr gan adael pobl sy’n agored i niwed mewn perygl.
Bydd y rheolau ynghylch unigolion yr ystyrir eu bod yn byw mewn eiddo sy’n rhy fawr ar eu cyfer, neu’r dreth ar ystafelloedd gwely, yn effeithio ar lawer o bobl, gan gynnwys pobl anabl. Byddai fy mhartner a minnau’n ystyried symud i eiddo ag un ystafell wely ond nid oes rhai ar gael, a phe baem yn ystyried symud i’r sector preifat byddai’n fwy costus yn y lle cyntaf. Mae fy nghartref wedi’i addasu ar fy nghyfer, fel y mae cartrefi llawer o bobl anabl. Pe bawn yn gallu symud byddai’n rhaid gwneud yr addasiadau yn yr eiddo newydd, ac nid yw hynny’n gwneud dim synnwyr o safbwynt economaidd.
Bydd fy mhartner yn aml yn cysgu yn yr ail ystafell wely i gael noson dda o gwsg, gan fy mod yn dioddef anhwylder straen wedi trawma ac yn cael ôl-fflachiau arswydus. Nid yw pobl anabl wedi’u heithrio rhag y rheolau ynghylch byw mewn eiddo sy’n rhy fawr ar eu cyfer, fel y mae’r Llywodraeth wedi ei honni. Dim ond teuluoedd sydd â phlant anabl ac unigolion sy’n dychwelyd o weithio i’r Lluoedd Arfog sydd wedi’u heithrio. Rhaid iddynt wneud cais am Fudd-dal Tai yn ôl Disgresiwn trwy eu hawdurdod lleol, ac nid oes gan yr awdurdodau lleol ddigon o arian i ddigolledu pobl anabl neu bobl sy’n agored i niwed. Ni chaiff cyfeillion, aelodau’r teulu a phobl sy’n cyd-fyw â phobl anabl eu hystyried yn ofalwyr at ddibenion Budd-dal Tai yn ôl Disgresiwn.
Mae Tai Ceredigion wedi gwneud argraff dda arnaf, gan gymryd ei ddyletswydd i ofalu am denantiaid o ddifrif. Mae Tai Ceredigion wedi bod yn rhagweithiol iawn trwy sefydlu Pwyllgor Diwygio Lles y llynedd i adnabod yr holl denantiaid y mae’r newidiadau hyn yn effeithio arnynt. Rwyf i’n ymwneud â gwaith y pwyllgor hwnnw. Mae staff wedi bod yn curo ar ddrysau tenantiaid, yn siarad â nhw ac yn helpu’r sawl yr effeithiwyd arnynt fwyaf i hawlio Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn.
Yn fy marn i, dim ond gwaethygu gwnaiff y sefyllfa yn awr, wrth i’r system Credyd Cynhwysol ddod i rym ac wrth i’r system Taliad Annibyniaeth Bersonol gymryd lle’r Lwfans Byw i’r Anabl.
Trwy fy ngwaith gyda Grŵp Gweithredu ar Anabledd Cymru, rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU, a’r ymateb a gafwyd gan yr Arglwydd Freud, y gweinidog sy’n gyfrifol am ddiwygio lles, yw y dylai pobl sydd â swyddi weithio mwy o oriau, dylai pobl sydd ag ystafelloedd gwely ychwanegol gymryd lojar, a dylai pobl anabl ddod o hyd i waith. Felly, mae’n amlwg y byddent yn hoffi gorfodi pobl i ddechrau gweithio, sy’n haws dweud na gwneud yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, a gorfodi pobl anabl i fyw mewn sefydliadau, oherwydd heb help ni all llawer o bobl fyw’n annibynnol.”
Mae Prif Weithredwr Tai Ceredigion, Steve Jones, yn bryderus iawn gan y bydd llawer o denantiaid yn cael llai o fudd-dal tai a byddant yn ei chael yn anodd talu eu rhent. Meddai, “Os oes gennych fwy o ystafelloedd gwely nag y mae eu hangen ar eich teulu, bydd eich budd-dal tai yn cael ei leihau a bydd disgwyl i chi, fel tenant, dalu’r rhent llawn gan dalu’r hyn sy’n ddyledus ar ôl cael eich budd-dal tai. Mae llawer o bobl yng Ngheredigion ar incwm isel neu heb waith, felly bydd dod o hyd i’r arian ychwanegol bron yn amhosibl.
Yn ogystal, nid yw’r diwygiadau newydd yn ystyried pob achos yn unigol gan fod pawb yn wahanol, ond yr hyn sy’n peri mwy o bryder yw’r ffaith bod Ceredigion yn sir wledig lle’r ydym yn byw mewn trefi bach a phentrefi lle nad oes digon o fflatiau un ystafell wely a dwy ystafell wely ar gael, felly ni all pobl osgoi’r toriad hwn trwy chwilio am gartref llai o faint.”