A A A
Header graphic

   Cyfarfodydd y Bwrdd

 

25 Mawrth 2012
25 Mai 2012
 13 Gorffennaf 2012

Yn isod rhestrir y dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd y Bwrdd Rheoli sydd i’w cynnal yn y dyfodol.  Os ydych yn dymuno mynychu’r rhan agored o’r cyfarfod yna, cysylltwch a post@taiceredigion.org.uk fel ein bod yn medru gwneud trefniadau perthnasol ar eich cyfer a danfon agenda atoch ymlaenllaw.

Pwy yw aelodau’r Bwrdd?

Wedi’u rhestru isod mae enwau 15 aelod y Bwrdd a datganiad personol cryno gan bob un ohonynt. Rhyngddynt mae aelodau’r Bwrdd yn dod â gwahanol sgiliau a gwybodaeth arbenigol i’r Bwrdd i sicrhau y gallai Tai Ceredigion gyflawni’r addewidion a wneir o fewn y Dogfen Cynnig tenantiaid.

Cynrychiolwyr y Tenantiaid

Gay McFee, Llandysul (Is-gadeirydd)


Gay McFee

Mae Gay yn chwarae rhan gref ym materion tenantiaid er 1996, a hynny’n cynnwys swyddogaethau rheolaeth yn Ffederasiwn Tenantiaid Cymru a Chymdeithas Trigolion a Thenantiaid De Teifi, yn ogystal â bod yn ymddiriedolwr i Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion.

“A Thai Ceredigion bellach wedi dod yn landlord newydd inni, bydd tenantiaid cyn bo hir yn gallu gweld £40 miliwn yn cael eu gwario dros bum mlynedd i ddod â chartrefi i mewn i’r 21ain ganrif, gyda cheginau ac ystafelloedd ymolchi modern a gwelliannau o ran gwresogi a’r amgylchedd. Fel tenant sy’n aelod o’r bwrdd rwyf yn cofleidio’n frwd y cyfle i gynrychioli tenantiaid, a’r cyfle i ddylanwadu ar benderfyniadau allweddol a fydd yn fuddiol i denantiaid a’r gymuned ehangach.”

Michael Jones, Aberystwyth


Michael Jones

Ac yntau’n weithgar gyda phobl ifainc a hen bobl yn y gymuned, mae gan Michael gefndir yn y diwydiant adeiladu ac mewn hyfforddiant

“Rwyf yn edrych ymlaen at weld llawer mwy o denantiaid yn cymryd rhan ac yn gwir fanteisio ar y cyfleoedd am gyfranogiad gan denantiaid.”

Nesta Williams, Llandysul


Nesta Williams

Mae Nesta’n gwirfoddoli i’r Multiple Sclerosis Society ac mae’n ymddiriedolwr i Gronfa’r Adeilad Adsefydlu Cardiaidd a Ceredigion Fergusson Heritage.

“Bydd Tai Ceredigion yn dod â gwelliannau y mae mawr angen amdanynt i gartrefi a’r addewid o fuddion gwirioneddol i’r gymuned ehangach. Ni all yr holl waith a fydd yn mynd tuag at wella cartrefi a gwasanaethau ond fod yn newyddion da i’r economi leol ac i gymunedau cyfan yn eu tro.”

Gareth Lewis, Aberystwyth


Gareth Lewis

Mae Gareth, sydd wedi ymddeol o’r lluoedd arfog, yn gyfarwyddwr ac yn Is-gadeirydd i brosiect Rhoserchan, sef canolfan driniaeth cyffuriau ac alcohol. Mae Gareth hefyd yn Is-gadeirydd ymddiriedolaeth Cofgolofn Ryfel Aberystwyth, yn aelod o bwyllgor Cadetiaid Môr Aberystwyth ac yn Gadeirydd Cangen Aberystwyth o Gymdeithas y Llynges Frenhinol.

“Roeddwn am chwarae rhan oherwydd fy mod yn awyddus, a finnau’n denant fy hun, i’r holl denantiaid gael cartrefi boddhaol a mynediad at y gwasanaeth tai gorau posib. Rwyf yn teimlo bod landlord newydd di-elw gyda thenantiaid ar y bwrdd a’r gallu i fuddsoddi mwy o arian yn ein cartrefi yn well ffordd ymlaen o lawer i denantiaid.”

Dorothy James, Castellnewydd Emlyn


Dorothy James

A hithau wedi gweithio’n gyntaf mewn gwestai, bu Dorothy’n gweithio’n ddiweddarach fel merch siop ffrogiau, gan fodelu hefyd i godi arian i amrywiaeth o achosion da.

“Rwyf yn meddwl ei bod yn bwysig iawn i denantiaid gael y cyfle i weld y gwelliannau y mae wir arnynt eu hangen yn cael eu gwneud i’w cartrefi. Rwyf yn edrych ymlaen at gyflawni’r addewidion yr ydym wedi’u gwneud i denantiaid.”

Enwebedigion y Cyngor

Y Cynghorydd Hag Harris (Cadeirydd)


Hag Harris

Mae Hag yn cynrychioli Llanbedr Pont Steffan ar y Cyngor Sir er 1981, ac y mae ar hyn o bryd yn aelod Cabinet â chyfrifoldeb am wasanaethau cymdeithasol. Ac yntau’n raddedig o Brifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, y mae Hag yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig sydd wedi gweithio i Gyngor cyfagos Sir Gaerfyrddin fel swyddog maethu. Y mae ar hyn o bryd yn rhedeg ei siop gerddoriaeth a ffilmiau ei hun yn Llanbedr Pont Steffan. Yn dad i dri o blant, y mae Hag yn aelod gweithgar o lawer o sefydliadau allanol ac y mae’n llywodraethwr i ddwy ysgol Llanbedr Pont Steffan ac yn gyn-faer ar y dref.

“Mae Tai Ceredigion yn cynnig cyfle na fu ei debyg erioed o’r blaen i gyflawni gwelliannau gwirioneddol, diriaethol i denantiaid ledled Ceredigion a hefyd i amddiffyn, ac yn wir, i gynyddu swyddi’r rhai sy’n gweithio ym maes tai. Rwyf yn awyddus dros ben i weld y Sir gyfan yn elwa o’r buddsoddiad a ddaw yn sgil Safon Ansawdd Tai Cymru.”

Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn


Ellen ap Gwynn

Ellen yw’r Cynghorydd dros ward Ceulanamaesmawr ers naw mlynedd. Gyda chefndir mewn rheolaeth yn y celfyddydau, a hynny’n cynnwys cyfnod fel rheolwr cyffredinol Radio Ceredigion, bu’n gwasanaethu ar lawer o fyrddau a phwyllgorau statudol a gwirfoddol gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru.

“Rwyf am weld Tai Ceredigion yn darparu tai sy’n addas i’r 21ain ganrif ac yn gweithredu mewn ffordd sy’n deg i’r holl denantiaid.”

Y Cynghorydd Alun Williams


Alun Williams

Y mae Alun yn Gynghorydd dros ward Bronglais yn Aberystwyth ers saith mlynedd ac yn gweithio’n lleol mewn nyrsio iechyd meddwl cymunedol er 1988. Gyda diddordeb byw mewn cynhwysiant cymdeithasol yn ogystal â chynaliadwyedd amgylcheddol, mae Alun am weld Tai Ceredigion yn datblygu polisïau a fydd yn fuddiol i denantiaid a’r amgylchedd fel ei gilydd.

“Rwyf am helpu i wella amodau tai i’r holl denantiaid, ond yn enwedig i aelodau tlotaf y gymdeithas. Y mae gan Dai Ceredigion gyfle gwych i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ac i ddarparu’r cartrefi gorau posib i’r rhai yng Ngheredigion sy’n dibynnu ar dai cymdeithasol.”

Y Cynghorydd Dafydd Edwards


Dafydd Edwards

Y mae Dafydd yn byw ym Methania gyda’i wraig Llinos. Daeth yn Gynghorydd Sir Ceredigion yn 2008, ac yntau’n gwasanaethu ward Llansantffraid. Y mae’n chwarae rhan weithgar fel aelod bwrdd mewn gwahanol grwpiau sy’n cefnogi cymunedau, theatr lleol a’r celfyddydau.

Peirianneg sifil yw ei gefndir ac y mae ar hyn o bryd yn gweithio yn y maes gan ddarparu gwasanaethau peirianneg sifil, mesur meintiau ac ymgynghoriad rheolaeth – a’r rheini i gyd yn sgiliau ac yn brofiad sy’n werthfawr iawn yn ei swyddogaeth ar Fwrdd Tai Ceredigion.

“Gwelaf fy swyddogaeth fel Aelod Bwrdd yn estyniad o fy ngwaith fel cynghorydd – sef sicrhau y gofalir am gymunedau lleol ac y darperir gwasanaethau o ansawdd uchel iddynt sy’n rhoi gwerth am arian. Rwyf am i Dai Ceredigion wasanaethu’r gymuned leol drwy leihau biwrocratiaeth, rhoi tenantiaid yn gyntaf a mabwysiadu athroniaeth seiliedig ar synnwyr cyffredin er lles pawb.”

Y Cynghorydd Ivor Williams

Ivor Williams

Mae Ivor wedi bod yn Gynghorydd ar ran ward Tref Llanbedr Pont Steffan ers 1999, ac mae wedi treulio ei holl yrfa’n gweithio yn y dref a’r ardaloedd cyfagos fel peintiwr a phapurwr. Mae wedi bod yn Gadeirydd Cyngor Sir Ceredigion ddwywaith ac yn Faer tref Llanbedr Pont Steffan.  Mae Ivor yn dal yn weithgar gyda nifer o sefydliadau a grwpiau yng Ngheredigion gan gynnwys Sgowtiaid Ceredigion a Chlwb Pêl-droed Llanbedr Pont Steffan, ac mae’n un o Ymddiriedolwyr Coedwig Gymunedol Longwood yn Llanbedr Pont Steffan. Bu’n Llywodraethwr Ysgol yn Ysgol Uwchradd Llanbedr Pont Steffan ac Ysgol Gynradd Ffynnonbedr ers sawl blwyddyn, a bu’n Gadeirydd y Llywodraethwyr hefyd.

Meddai Ivor, “Rwy’n awyddus i weld Tai Ceredigion yn llwyddo i sicrhau’r safonau uchaf posibl o ran tai i’w denantiaid gan gadw’r rhent ar lefel fforddiadwy ar yr un pryd. Mae gan Tai Ceredigion gyfle i wneud gwahaniaeth go iawn i holl drigolion Ceredigion. Byddwn hefyd yn hoffi gweld rhagor o dai cymdeithasol yn cael eu hadeiladu oherwydd profwyd bod angen rhagor o dai yn y sir.”

Cynrychiolwyr Annibynnol

Stephen Cripps


Stephen Cripps

Ac yntau erbyn hyn wedi ymddeol, mae Stephen yn dod â chryn brofiad ym maes tai i fwrdd Tai Ceredigion. Gyda mwy na 30 mlynedd mewn swyddogaethau tai mewn awdurdodau lleol, bu Stephen yn ei swydd ddiweddaraf yn gwasanaethu fel Prif Swyddog gyda chyfrifoldeb am Dai, Gwasanaethau Technegol a Hamdden mewn Cyngor yn Lloegr. Mae Stephen yn aelod annibynnol o Bwyllgor Safonau Cyngor Sir Ceredigion.

“Rwyf yn awyddus i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned ac rwyf am geisio helpu i roi’r ansawdd bywyd gorau posib i bobl. Rwyf yn credu bod tai boddhaol yn hanfodol i iechyd da, i gymuned leol iach ac i ansawdd bywyd da yn gyffredinol ac mai Tai Ceredigion yw’r corff iawn i gyflawni’r swyddogaeth hon yn lleol.”

Dick Evans


Dick Evans

Mae’r aelod bwrdd annibynnol Dick Evans yn bensaer wedi ymddeol a fu’n gweithio yng Nghaerdydd ac yn Sydney. Y mae’n dod â mwy na deugain mlynedd o brofiad i’r Bwrdd.

Y mae Dick yn dra chyfarwydd â swyddogaeth aelod o fwrdd cymdeithas tai ac yntau wedi eistedd ar Fwrdd Tai Taf yng Nghaerdydd, a’i gadeirio.

Y mae’n byw ar bwys Aberteifi, a chanddo 3 o blant ac mae’n mwynhau peintio a garddio.

“Bûm wastad yn teimlo ei bod yn bwysig i bobl roi rhywbeth yn ôl i’w cymuned. Yn y gorffennol rwyf wedi gwneud gwaith gwirfoddol yn Sri Lanka a gyda’r gwasanaeth carchar. Gwaith Tai Ceredigion yw’r ffordd ddelfrydol i ddefnyddio fy sgiliau a fy mhrofiad i helpu ein cymuned ac i ddarparu safon well o lawer o gartrefi i denantiaid ledled y Sir.”

Mererid Jones


Mererid Jones

Y mae Mererid – sy’n gweithio ac yn byw yn Aberystwyth – ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr Cyllid i Fudiad Ysgolion Meithrin. Cyfrifydd siartredig yw hi wrth ei galwedigaeth a bu’n archwilydd i amrywiaeth o gleientiaid yn y sectorau gwirfoddol ac elusennol.

Y mae Mererid yn ymfalchïo yn ei gwreiddiau ac yn frwdfrydig y tu hwnt ynghylch yr iaith Gymraeg.

“Rwyf yn teimlo ei bod yn bwysig iawn bod Tai Ceredigion yn gorff dwyieithog a’i fod yn lleol ei seiliau ac yn gwasanaethu ei gymunedau’n dda. Mae angen inni wneud yn siŵr bod ei gyllid yn cael ei fonitro’n agos ac y gall y tenantiaid fod yn hyderus bod eu rhenti’n cael eu cadw’n fforddiadwy ac yn cael eu defnyddio mewn modd cyfrifol.”.

Peter Saunders


Peter Saunders

Mae Peter, sydd wedi ymddeol erbyn hyn, yn byw yn Aberystwyth ac mae’n dysgu Cymraeg.  Hyfforddodd yn Gynllunydd Tref yng Nghaerdydd yn wreiddiol, cyn symud yn fuan wedyn i faes ymchwil ac yna i ddarlithio.  Bu’n dysgu ym Mhrifysgol John Moores yn Lerpwl am nifer o flynyddoedd gan ddatblygu diddordeb mewn polisi cyhoeddus, yn enwedig tai ac iechyd.  Am 12 mlynedd olaf ei yrfa, bu Peter yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau i Fyfyrwyr a bu’n gyfrifol am gyflwyno newidiadau pwysig i’r modd y câi’r holl gymorth i fyfyrwyr ei ddarparu a’i weinyddu. Yn fwy diweddar, mae Peter wedi datblygu diddordeb byw mewn gofal cymdeithasol a thai ‘gofal ychwanegol’.

Meddai Peter, “Mae gan Tai Ceredigion gyfle gwych i ddatblygu gwasanaethau sy’n adlewyrchu anghenion penodol Canolbarth Cymru, ac mae’n bwysig bod y gwaith ardderchog sy’n mynd rhagddo yn cael ei ddatblygu a’i ymestyn.” 

 

Derek Lassetter


Derek Lassetter

Mae Derek wedi mwynhau gyrfa faith mewn diwydiant, gan ddal nifer o swyddi rheoli ym maes peirianneg a metelau arbenigol. Bu’n gweithio yn Llundain, Birmingham a Sheffield ac mae ganddo brofiad helaeth o weithio dramor.
 
At hynny, mae’n aelod annibynnol o Gyngor Dilysnodi Prydain ac mae’n aelod o Bwyllgor Moeseg Ymchwil Dyfed Powys y GIG.
 
Mae Derek yn byw yn Aberystwyth gyda’i deulu.
 
“Rwyf o’r farn bod Tai Ceredigion yn sefydliad sydd wedi ennill ei blwyf ac wedi ennill parch yn gyflym fel corff sy’n gwneud cyfraniad a gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl yn y sir. Yn bersonol, rwy’n awyddus iawn i fod yn weithgar yn y gymuned ac rwy’n falch o gael cyfle i ddefnyddio fy mhrofiad a’m sgiliau i helpu Tai Ceredigion gyda’r gwaith hwn.”

Tai Ceredigion Cyf, Uned 4, Parc Busnes Pont Steffan, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion. SA48 7HH
Rhif cofrestru cwmni: IP030701
Email post@taiceredigion.org.uk
General enquiries Ymholiadau cyffredinol: 0345 606 7654
Atgyweirio: 0300 123 3300   Rhad ac am ddim: 0800 111 4228
Tai Ceredigion © 2012
Tai Ceredigion