Amdan Tai Ceredigion
Mae Tai Ceredigion yn Gymdeithas Tai newydd, leol, ddi-elw. Y mae’n Gymdeithas Ddiwydiannol a Darbodus (wedi’i chofrestru o dan reolau elusennol) ac y mae hefyd wedi’i chofrestru â’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA). Oherwydd hyn gall incwm Tai Ceredigion i gyd gael ei fuddsoddi yn ôl mewn gwella cartrefi tenantiaid, darparu gwasanaethau o safon uchel i denantiaid a lesddeiliaid a rhedeg y gwasanaeth tai.
Mae Tai Ceredigion yn cael ei rhedeg gan fwrdd rheoli o bymtheg o bobl wirfoddol, nad ydynt yn cael eu talu (heblaw am dreuliau parod rhesymol). Mae’r Bwrdd wedi’i gyfansoddi o bum cynrychiolydd etholedig o’r tenantiaid, pump wedi’u henwebu gan Gyngor Sir Ceredigion, a phum aelod annibynnol o’r gymuned. Y mae ganddynt gyfrifoldeb cyffredinol am redeg Tai Ceredigion, gan gynnwys datblygiad polisi a gosod cyllidebau.
Mae Tai Ceredigion yn gyfrifol am reoli dros 2,200 o gartrefi, 140 o aneddleoedd lesddaliadol ac yn cyflogi dros 80 o staff.